ynni glân, cynaliadwy
nad yw'n costio'r ddaear
Diben
Clwstwr unigryw o’r sector niwclear yw Arc Niwclear y Gogledd Orllewin – NWNA – ac mae’n cwmpasu gogledd Lloegr a gogledd Cymru. Mae’n ymgorffori holl gyfleusterau a gallu’r cylch niwclear ar ei hyd yn ei holl agweddau gan gynnwys tanwydd, cynhyrchu ynni, rheoli gwastraff a datgomisiynu. Mae NWNA yn unigryw yn y Deyrnas Unedig ac mae’n cael ei gydnabod yn eang fel system niwclear hunangynhwysol gynhwysfawr o’r radd flaenaf, a’r cyfan mewn ardal gryno iawn.
Ein gweledigaeth yw i glwstwr niwclear NWNA ddarparu ynni glân cynaliadwy i genhedloedd y Deyrnas Unedig a chefnogi swyddi, bywoliaethau a thwf busnesau gwerth chweil yn lleol yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Gwnawn hynny trwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol y diwydiant, llywodraethau lleol a chenedlaethol a chymunedau i greu cyd-weledigaeth ar gyfer ynni niwclear yn ein hardal ddaearyddol. Rydym yn cyfleu ein gweledigaeth a’n negeseuon am rôl ynni niwclear fel cyfraniad allweddol at system ynni glân gymysg, yn ogystal â’r manteision economaidd a chymdeithasol eraill sydd iddo.
Bydd sgileffeithiau hirdymor i C-19 ar yr economi’n lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang i gymunedau difreintiedig y Deyrnas Unedig. Mae angen ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys mwy o gydweithredu i hybu a chryfhau’r economïau lleol. Wrth symud ymlaen at adferiad, mae NWNA yn cynnig dull parod o gydlynu a hwyluso buddsoddiad niwclear newydd i ogledd Lloegr a ogledd Cymru.
Ynni cynaliadwy, glân
Ynni glân cynaliadwy nad yw’n costio’r ddaear. Mae ynni niwclear yn garbon isel, yn gynaliadwy, yn ddibynadwy a gyda’r dulliau newydd sydd o ariannu a arferion busnes safleoedd niwclear a thechnolegau newydd mae’n bosib ei gyflenwi’n rhatach. Nid oes raid iddo gostio’r ddaear – yn amgylcheddol nac yn ariannol. Mae niwclear yn allweddol o ran cadw’r goleuadau ymlaen, pweru trydaneiddio cartrefi a thrafnidiaeth wrth i’r Deyrnas Unedig drawsnewid y system ynni i ffwrdd o lo a nwy.
Y tu hwnt i'r tegell
Mae ynni niwclear yn gwneud mwy na chyflenwi pŵer i’r grid i redeg ein cartrefi a’n busnesau. Mae niwclear yn arbed bywydau – trwy bweru sganwyr CT a thrwy feddygaeth niwclear. Rhaid i bŵer niwclear fod yn elfen allweddol o gynhyrchu tanwydd synthetig a hydrogen, y gellir ei ddefnyddio i bweru trafnidiaeth a lleihau carbon. Mae ynni niwclear yn cynnig gobaith i bobl yn y rhannau sychaf o’r byd lle mae technolegau dihalwyno’n hanfodol i gynhyrchu dŵr i’w yfed ac i amaethyddiaeth. Ynni niwclear yn pweru archwilio’r gofod. Gallai ynni niwclear ddarparu gwres i ardaloedd a dŵr poeth i gartrefi am gost isel iawn. Mae’n cynnig llawer mwy i gymdeithas na thrydan yn unig.
Glanhau
Glanhau gartref a ledled y byd. Yn wahanol i gynhyrchwyr ynni eraill – mae cynhyrchwyr pŵer niwclear yn glanhau ar eu hôl. Byddant bob amser yn gwneud hynny, yn awr ac i’r dyfodol. Mae rheoli gwastraff hen safleoedd niwclear y genhedlaeth gyntaf yn fater cymhleth, ond mae’r cymhlethdod wedi esgor ar arloesedd, technolegau a gwybodaeth ymarferol sydd gyda’r gorau yn y byd. Mae NWNA yn gartref i allu i lanhau sy’n eithriadol ac o’r radd flaenaf yn fyd-eang. Mae angen mwy o gefnogaeth i ddarparwyr technoleg a chwmnïau’r Deyrnas Unedig allforio’r gallu hwnnw’n effeithiol a glanhau’r farchnad dramor.